Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 29
Mehefin 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Enwebiadau ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau
(15 munud)
Bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau canlynol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F:
1. Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Llafur)
2. Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus (Ceidwadwyr Cymreig)
3. Y Pwyllgor Cyllid (Plaid Cymru)
4. Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Llafur)
5. Y Pwyllgor Deisebau (Llafur)
6. Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol (Plaid Cymru)
7. Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Ceidwadwyr Cymreig)
8. Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ceidwadwyr Cymreig)
9. Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Llafur)
10. Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Plaid Cymru)
11. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Llafur)
12. Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Llafur)
2 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
4 Datganiad gan y Prif Weinidog: Diwygio ein Hundeb
(45 munud)
5 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Gwarant i Bobl Ifanc
(45 munud)
6 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Hybu Cydraddoldeb LGBTQ+ yng Nghymru
(45 munud)
7 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwaith Teg a’r Cyflog Byw Gwirioneddol mewn Gofal Cymdeithasol
(45 munud)
8 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021
(30 munud)
NDM7724 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2021.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
9 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 30 Mehefin 2021